R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y
Tŷ
1.
William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog nodi’r ystyriaeth y mae
wedi’i rhoi i fondiau effaith gymdeithasol a sut y gallent
fod yn berthnasol i Gymru. OAQ(4)0230(FIN)
2.
Ann
Jones (Dyffryn Clwyd):A
wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen
‘Buddsoddi i Arbed’ Llywodraeth
Cymru.OAQ(4)0226(FIN)
3. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i Fyrddau Iechyd Lleol
Cymru wrth ddyrannu arian i'r portffolio Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol. OAQ(4)0231(FIN)
4. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn ystod 2013 i fynd i’r afael â bwlio homoffobig yng Nghymru. OAQ(4)0218(FIN)
5. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
A
wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am
weithredu’r Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw'n
Annibynnol. OAQ(4)0224(FIN)
6.
Nick
Ramsay (Mynwy):A
wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am setliad
cyffredinol y gyllideb ar gyfer y portffolio Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol. OAQ(4)0222(FIN)
7.
Aled
Roberts (Gogledd Cymru):Pa
ystyriaeth y mae’r Gweinidog yn ei rhoi i gostau posibl
deddfwriaeth newydd wrth lunio cyllideb Llywodraeth Cymru.
OAQ(4)0229(FIN)W
8.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Pa
ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i anghenion cyfalaf GIG Cymru
i’r dyfodol wrth ddyrannu'r gyllideb gyffredinol ar gyfer y
portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. OAQ(4)0236(FIN)
9.
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael yn
ddiweddar ynghylch y dyraniad ariannol cyffredinol i’r
portffolio Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy. OAQ(4)0234(FIN)
10.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro):A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr arian cyffredinol a ddyrennir
i’r portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
OAQ(4)0221(FIN)
11. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw
darpar gyflogwyr yn gwahaniaethu yn erbyn ceiswyr gwaith
anabl.OAQ(4)0227(FIN)
12. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd sy’n cael ei wneud yng nghyswllt creu Trysorlys i Gymru.OAQ(4)0220(FIN)
13.
David Rees (Aberafan):A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd yr Adolygiad i Sicrhau bod
Polisi Caffael Llywodraeth Cymru yn cael yr Effaith Fwyaf
Posibl. OAQ(4)0232(FIN)
14.
Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr arian a ddyrennir i
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan y gyllideb atodol.
OAQ(4)0225(FIN)
15. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effeithiolrwydd Datganiad Polisi Caffael Cymru o ran sicrhau bod contractau sector cyhoeddus yn hygyrch i bawb. OAQ(4)0228(FIN)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a
Gwyddoniaeth
1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn ystod 2013 i gynorthwyo busnesau bach a chanolig yng Nghymru. OAQ(4)0234(BET)
2. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i gwmnïau sy’n ystyried sefydlu pencadlys eu busnes yn Nyffryn Clwyd.OAQ(4)0241(BET)
3. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau annibynnol yn etholaeth Pontypridd.OAQ(4)0245(BET)
4. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i wella’r signal ar gyfer ffonau symudol mewn ardaloedd gwledig.OAQ(4)0248(BET)
5. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r amodau sy’n ymwneud ag Opsiwn 8 o fewn cynllun Glastir.OAQ(4)0242(BET)W
6. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau bach a chanolig yng Ngogledd Cymru.OAQ(4)0246(BET)
7. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y ffigurau diweithdra diweddaraf yng Nghymru.OAQ(4)0239(BET)
8. Elin Jones (Ceredigion): Pa gamau y mae’r Gweinidog wedi’u cymryd i gyflwyno 4G yng Nghymru. OAQ(4)0238(BET)W
9. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei chynlluniau ar gyfer ardrethi busnes yng Nghymru.OAQ(4)0237(BET)
10. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Sêr Cymru. OAQ(4)0240(BET)
11. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o gyfraniad busnesau bach at ffyniant trefi Cymru.OAQ(4)0244(BET)W
12. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau bach. OAQ(4)0243(BET)W
13. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lwyddiant ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu swyddi a thwf economaidd cynaliadwy ers dechrau'r Pedwerydd Cynulliad, fel yr amlinellwyd yn y Rhaglen Lywodraethu. OAQ(4)0247(BET)
14. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr adolygiad o ardrethi busnes yng Nghymru. OAQ(4)0236(BET)
15. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth i fusnesau yn nhrefi marchnad Cymru.OAQ(4)0235(BET)